John 9:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dywedent wrth y dall drachefyn, Py beth a ddywedy di am danaw ef, can iddaw agori dy lygait? Ac ef a ddyvawt, Mai Prophwyt yw ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ymraniad oedd yn eu plith. Dywedasant, gan hyny, drachefn wrth y dall, Pa beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am Dano Ef, am agoryd o Hono dy lygaid di?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedasant wedyn wrth y dyn dall: “Beth a ddywedi di amdano, ag yntau wedi agor dy lygaid?” Dywedodd yntau: “Proffwyd ydyw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwy a ddywedasant drachefn wrth y dall, Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdano ef, am agoryd ohono dy lygaid di? Yntau a ddywedodd, Mai proffwyd yw efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y diwedd dyma nhw'n troi at y dyn dall eto, “Beth sydd gen ti i'w ddweud amdano? Dy lygaid di agorodd e.” Atebodd y dyn, “Mae'n rhaid ei fod yn broffwyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dyma hwy'n gofyn eto i'r dyn dall, "Beth sydd gennyt ti i'w ddweud amdano ef, gan iddo agor dy lygaid di?" Atebodd yntau, "Proffwyd yw ef."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y maent yn dywedyd gan hyny drachefn wrth y dall, Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am dano ef? oblegyd efe a agorodd dy lygaid di. Ac efe a ddywedodd, Proffwyd yw.