John 9:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ny chredawdd yr Iuddaeon am danaw (y vot ef yn ddall, a ’chael ei ’olwc nes yddynt ’alw am rieni yr vn a gawsei ei ’olwc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe a ddywedodd, Prophwyd yw. Gan hyny, ni chredodd yr Iwddewon am dano, mai dall fuasai, a chael o hono ei olwg, nes galw o honynt rieni yr hwn a gawsai ei olwg,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly ni chredai’r Iddewon amdano ei fod yn ddall ac wedi dyfod i weled nes galw ohonynt ei rieni ef, y dyn a ddaethai i weled,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny ni chredai'r Iddewon amdano ef, mai dall fuasai, a chael ohono ef ei olwg, nes galw ohonynt ei rieni ef, yr hwn a gawsai ei olwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd yr arweinwyr Iddewig yn gwrthod credu ei fod wedi bod yn ddall nes i'w rieni ddod yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwrthododd yr Iddewon gredu amdano iddo fod yn ddall a derbyn ei olwg, nes iddynt alw rhieni'r dyn
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iuddewon gan hyny ni chredasant am dano ef, mai dall fuasai, a derbyn o hono ei olwg, hyd nes galw o honynt rïeni y dyn ei hun a dderbyniasai ei olwg.