John 9:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ govynesont y ðynt gan ðywedyt, A‐y hwn yw y ch map chwi, yr vn a ðywedw‐chwi ddaruot y eni yn ddall? Pa wedd gan hyny y gwyl ef yr awrhon?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gofyn iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab, am yr hwn yr ydych chwi yn dweud mai dall y ganwyd ef? Pa fodd, gan hyny, y gwel efe yn awr?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a holasant hwynt gan ddywedyd: “Hwn yw eich mab chwi y dywedwch chwi ei fod wedi ei eni’n ddall? Sut ynteu y mae yn awr yn gweled?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ofynasant iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab chwi, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall? pa fodd gan hynny y mae efe yn gweled yn awr?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ai eich mab chi ydy hwn?” medden nhw. “Gafodd e ei eni'n ddall? Ac os felly, sut mae e'n gallu gweld nawr?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'u holi hwy: "Ai hwn yw eich mab chwi? A ydych chwi'n dweud ei fod wedi ei eni'n ddall? Sut felly y mae'n gweld yn awr?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ofynasant iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab chwi, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall? Pa fodd gan hyny y mae efe yn gweled yn awr?