John 9:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
and trwy pa vodd y gwyl ef yr awrhon, ny’ s g wyddam: ai pwy ’n a agorawdd y lygait ef, ny’ s gwyddam ni: y mae ef o oedran: govynnwch yddaw: ef a etyp drostaw ehun.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond pa fodd y mae efe yr awrhon yn gweled, nis gwyddom; neu pwy a agorodd ei lygaid ef, nyni nis gwyddom. Gofynwch iddo ef ei hun; mewn oedran y mae. Efe a lefara am dano ei hun.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond sut y mae’n gweled yn awr nis gwyddom, a phwy a agorodd ei lygaid nis gwyddom ni; holwch ef, y mae mewn oed, fe sieryd ef amdano’i hun.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pa fodd y mae efe yn gweled yr awron, nis gwyddom ni; neu pwy a agorodd ei lygaid ef, nis gwyddom ni: y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef: efe a ddywed amdano'i hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond does gynnon ni ddim syniad sut mae'n gallu gweld bellach, na phwy wnaeth iddo allu gweld. Gofynnwch iddo fe. Mae'n ddigon hen! Gall siarad drosto'i hun.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ni wyddom sut y mae'n gweld yn awr, ac ni wyddom pwy a agorodd ei lygaid. Gofynnwch iddo ef. Y mae'n ddigon hen. Caiff ateb drosto'i hun."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond pa fodd y mae efe yn awr yn gweled, nis gwyddom ni; neu pwy a agorodd ei lygaid, nis gwyddom ni: gofynwch iddo ef ei hun; y mae efe o oedran: efe ei hun a lefara am dano ei hun.