John 9:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y geiriæ hyn a ddyvawt y rieni ef, can y dd ynt vot yn ofni yr Iuddaion: o bleid e ddaroedd ir Iuddaeon ddarparu eisioes a’ s coffessei neb un mai efe ytoedd y Christ, bot y escommuno ef allan or Synagog.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hyn a ddywedodd ei rieni, oherwydd ofni o honynt yr Iwddewon, canys eisioes y cyttunasai yr Iwddewon, os cyfaddefai neb Ef yn Grist, y cai ei roi allan o’r sunagog.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hyn a ddywedodd ei rieni am fod ofn yr Iddewon arnynt, oherwydd yr oedd yr Iddewon eisoes wedi cytuno i dorri allan o’r synagog bob un a’i harddelai ef yn Eneiniog.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hyn a ddywedodd ei rieni ef, am eu bod yn ofni'r Iddewon: oblegid yr Iddewon a gydordeiniasent eisoes, os cyfaddefai neb ef yn Grist, y bwrid ef allan o'r synagog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Y rheswm pam roedd ei rieni'n ymateb fel hyn oedd am fod arnyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig. Roedd yr awdurdodau Iddewig wedi cytuno y byddai unrhyw un fyddai'n cyffesu mai Iesu oedd y Meseia yn cael ei ddiarddel o'r synagog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd ei rieni fel hyn am fod arnynt ofn yr Iddewon, oherwydd yr oedd yr Iddewon eisoes wedi cytuno bod unrhyw un a fyddai'n cyffesu Iesu fel Meseia i gael ei dorri allan o'r synagog.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y pethau hyn a ddywedodd ei rïeni ef, am eu bod yn ofni yr Iuddewon: canys yr oedd yr Iuddewon wedi gwneyd cytundeb eisioes, os cyfaddefai neb ef yn Grist, y byddai yn esgymunedig o'r Synagog: