John 9:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno eilwaith y galwesont ar y dyn a vesei yn ddall, ac wy ddywed e sont wrthaw, Dyro ’ogoniant y Dduw: cans gwyddam ni vot y dyn hwn yn pechatur.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, galwasant y dyn eilwaith, sef yr hwn a fuasai ddall, a dywedasant wrtho, Dyro ogoniant i Dduw. Nyni a wyddom fod y dyn hwn yn bechadur.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly galwasant yr ail waith y dyn a fuasai’n ddall, ac meddent hwy wrtho: “Dyro ogoniant i Dduw; gwyddom ni mai pechadur ydyw hwn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny hwy a alwasant eilwaith y dyn a fuasai yn ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro'r gogoniant i Dduw: nyni a wyddom mai pechadur yw'r dyn hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n galw'r dyn oedd wedi bod yn ddall o'u blaenau am yr ail waith, ac medden nhw wrtho “Dywed y gwir o flaen Duw. Dŷn ni'n gwybod fod y dyn wnaeth dy iacháu di yn bechadur.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna galwasant atynt am yr ail waith y dyn a fu'n ddall, ac meddent wrtho, "Dywed y gwir gerbron Duw. Fe wyddom ni mai pechadur yw'r dyn hwn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny hwy a alwasant y dyn yr ail waith, sef yr hwn a fuasai ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro y gogoniant i Dduw: nyni a wyddom mai pechadur yw y dyn hwn.