John 9:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd atepawdd ef ac y dyvawt, A yt yw ef yn pechatur anyd yvv, ny ’s gwn i: vn peth awn i, vy‐bot i yn ddall, ac yrowon yn gwelet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny yr attebodd efe, Ai pechadur yw, nis gwn. Un peth a wn, lle yr oeddwn yn ddall, yn awr y gwelaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yntau: “Ai pechadur ydyw, nis gwn. Un peth a wn, mai dall oeddwn a’m bod yn awr yn gweled.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ai pechadur yw, nis gwn i: un peth a wn i, lle yr oeddwn i yn ddall, yr wyf fi yn awr yn gweled.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd e, “Wn i ddim os ydy e'n bechadur a'i peidio, ond dw i'n hollol sicr o un peth — roeddwn i'n ddall, a bellach dw i'n gallu gweld!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yntau, "Ni wn i a yw'n bechadur ai peidio. Un peth a wn i: roeddwn i'n ddall, ac yn awr rwyf yn gweld."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Efe gan hyny a atebodd, Ai pechadur yw, nis gwn i: un peth a wn i, fy mod i, ddyn dall, yn awr yn gweled.