John 9:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ef atepawdd yddwynt, Dywedas y‐chwy eisius, ac ny chlywech: paam yr ewyllyswch ei glywet drachefyn? a ewyllysw‐chwi hefyt vot yn ðiscipulon iddaw ef?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebodd iddynt, Dywedais wrthych eisoes, ac ni wrandawsoch. Paham yr ewyllysiwch glywed drachefn? A ydych chwi yn ewyllysio myned yn ddisgyblion iddo?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd iddynt: “Yr wyf wedi dywedyd wrthych yn barod, ond ni wrandawsoch. Paham y mynnwch glywed eilwaith? Nid oes arnoch chwithau hefyd eisieu bod yn ddisgyblion iddo, a oes?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi eisoes, ac ni wrandawsoch:paham yr ydych yn ewyllysio clywed drachefn? a ydych chwithau yn ewyllysio bod yn ddisgyblion iddo ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd y dyn, “Dw i wedi dweud unwaith, a dych chi ddim wedi gwrando. Pam dych chi eisiau mynd trwy'r peth eto? Ydych chi hefyd eisiau bod yn ddilynwyr iddo?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd hwy, "Rwyf wedi dweud wrthych eisoes, ond nid ydych wedi gwrando. Pam yr ydych mor awyddus i glywed y peth eto? Does bosibl eich bod chwi hefyd yn awyddus i fod yn ddisgyblion iddo?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Efe a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi eisioes, ac ni wrandawsoch; paham yr ydych yn ewyllysio clywed drachefn? A ydych chwithau hefyd yn ewyllysio bod yn ddysgyblion iddo ef?