John 9:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y rhoeson senn yddaw, ac y dywed e sont, Bydd di ddiscipul yddo: ydd ym ni yn ddiscipulon i Voysen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A difenwasant ef, a dywedasant, Tydi sydd ddisgybl Iddo Ef, ond nyni, i Mosheh yr ydym yn ddisgyblion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chablasant ef a dywedasant wrtho: “Yr wyt ti’n ddisgybl i hwn, ond disgyblion Moesen ydym ni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau a'i difenwasant ef, ac a ddywedasant, Tydi sydd ddisgybl iddo ef; eithr disgyblion Moses ydym ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma nhw'n dechrau rhoi pryd o dafod iddo, “Ti sy'n ddilynwr i'r boi! Disgyblion Moses ydyn ni!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar hyn, dyma hwy'n ei ddifro ac yn dweud wrtho, "Ti sy'n ddisgybl i'r dyn. Disgyblion Moses ydym ni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a'i difenwasant, ac a ddywedasant, Tydi sydd ddysgybl iddo ef; ond nyni ydym ddysgyblion Moses.