John 9:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y dyn a atepawdd ac a ddyvawt wrthwynt, Diau vot hyn yn ryvedd, can na wyddo‐chwi o b’le y mae ef, ac eto ef a agores vy llygait i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebodd y dyn, a dywedodd wrthynt, Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyfedd, nad ydych chwi yn gwybod o ba le y mae, ac agorodd Efe fy llygaid i.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd y dyn a dywedodd wrthynt: “Ie, dyna’r rhyfeddod na wyddoch chwi o ba le y mae, ag yntau wedi agor fy llygaid i.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y dyn a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyfedd, na wyddoch chwi o ba le y mae efe, ac efe a agorodd fy llygaid i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wel, mae hynny'n anhygoel!” meddai'r dyn, “Rhoddodd y dyn fy ngolwg i mi, a dych chi ddim yn gwybod o ble mae'n dod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd y dyn hwy, "Y peth rhyfedd yw hyn, na wyddoch chwi o ble y mae wedi dod, ac eto fe agorodd ef fy llygaid i.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y dyn a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Wel! yn hyn y mae y rhyfeddod! na wyddoch chwi o ba le y mae efe, ac eto efe a agorodd fy llygaid i.