John 9:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Atepesont, a’ dywed e sōt wrthaw, Ym‐pechotae ith anet ti yn ollawl, a’ thi a’n dyscy ni? Ac vvy y bwrieson ef allan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebasant, a dywedasant wrtho, Mewn pechodau y’th anwyd di oll; a thydi wyt yn ein dysgu ni! A bwriasant ef allan.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebasant a dywedasant wrtho: “Mewn pechodau y ganed di’n gyfangwbl, ac a wyt ti’n ein dysgu ni?” A bwriasant ef allan.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Mewn pechodau y ganwyd ti oll; ac a wyt ti yn ein dysgu ni? A hwy a'i bwriasant ef allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wyt ti'n ceisio rhoi darlith i ni?” medden nhw, “Cest ti dy eni mewn pechod a dim byd arall!” A dyma nhw'n ei ddiarddel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd y Phariseaid ef, "Fe'th aned di yn gyfan gwbl mewn pechod, ac a wyt ti yn ein dysgu ni?" Yna taflasant ef allan.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Mewn pechodau y ganwyd ti yn gyfan‐gwbl, ac a wyt ti yn ein dysgu ni? A hwy a'i bwriasant ef allan.