John 9:35 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a glypu ddarvot yddynt y vwrw ef allan: a’ gwedy yddaw y gahel ef, y dyvawt wrthaw, A yw ti yn credu ym‐Mab Duw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Clywodd yr Iesu y bwriasant ef allan; a phan gafodd ef, dywedodd, A wyt ti yn credu ym Mab Duw?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Clywodd Iesu eu bod wedi ei fwrw allan, ac meddai ef, wedi dyfod o hyd iddo: “A wyt ti’n credu ym mab y dyn?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Clybu yr Iesu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan: a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu ym Mab Duw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Clywodd Iesu eu bod nhw wedi diarddel y dyn, ac ar ôl dod o hyd iddo, gofynnodd iddo, “Wyt ti'n credu ym Mab y Dyn?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywodd Iesu eu bod wedi ei daflu allan, a phan gafodd hyd iddo gofynnodd iddo, "A wyt ti'n credu ym Mab y Dyn?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu a glybu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan; a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu yn Mab y Dyn?