John 9:40 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ei o’r Pharisaieit ar oeð gyd ac ef, a glywsant y petheu hyn, ac a ddywed e sont wrthaw, A yd ym ni ne ddeillion hefyt?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Clywodd rhai o’r Phariseaid y pethau hyn, sef y rhai oedd gydag Ef, a dywedasant Wrtho, A ydym ninnau hefyd yn ddeillion?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Clywodd y rhai o’r Phariseaid a oedd gydag ef hynny, a dywedasant wrtho: “A ydym ninnau hefyd yn ddeillion?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhai o'r Phariseaid a oedd gydag ef, a glywsant y pethau hyn, ac a ddywedasant wrtho, Ydym ninnau hefyd yn ddeillion?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd rhai o'r Phariseaid yno pan ddwedodd hyn, ac medden nhw, “Beth? Dŷn ni ddim yn ddall, ydyn ni?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywodd rhai o'r Phariseaid oedd yno gydag ef hyn, ac meddent wrtho, "A ydym ni hefyd yn ddall?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hwy o'r Phariseaid a oedd gyd âg ef a glywsant y pethau hyn, ac a ddywedasant wrtho, A ydym ni hefyd yn ddeillion?