John 9:41 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a ddyvot, wrthynt, Pe deillion vyddech, ny byddei y‐chwy bechot: and yr owrhon y dywedwch, Yð ym yn gwelet: can hyny y mae eich pechot yn aros.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Pe deillion fyddech, ni fyddai genych bechod: ond yn awr y dywedwch, “Gwelwn,” a ’ch pechod sy’n aros.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddai’r Iesu wrthynt: “Pe baech ddeillion, ni byddai pechod arnoch. Yn awr dywedwch, ‘Yr ydym yn gweled’; y mae eich pechod yn aros.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe deillion fyddech, ni byddai arnoch bechod: eithr yn awr meddwch chwi, Yr ydym ni yn gweled; am hynny y mae eich pechod yn aros.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Petaech chi'n ddall, fyddech chi ddim yn euog o bechu; ond am eich bod yn honni eich bod yn gweld, dych chi'n euog, ac yn aros felly.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu hwy: "Pe baech yn ddall, ni byddai gennych bechod. Ond am eich bod yn awr yn dweud, 'Yr ydym yn gweld', y mae eich pechod yn aros.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe fyddech ddeillion, ni fuasai arnoch bechod; ond yn awr yr ydych yn dywedyd, Yr ydym yn gweled: y mae eich pechod yn aros.