John 9:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pan ddywedodd ef val hyn, y poyrodd ef ar y ðaiar, ac y gwnaeth ef brið gyst o’r poer, ac a irawð y prið gyst ar lygaid y dall,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wedi dywedyd y geiriau hyn, poerodd ar lawr, a gwnaeth glai o’r poeryn, ac enneiniodd y clai ar ei lygaid ef, a dywedodd wrtho, Dos;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi dywedyd hyn, poerodd ar lawr a gwnaeth laid o’r poer, a rhoes y llaid ar ei lygaid
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi iddo ef ddywedyd hyn, efe a boerodd ar lawr, ac a wnaeth glai o'r poeryn, ac a irodd y clai ar lygaid y dall;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl dweud hyn, poerodd ar lawr a gwneud mwd allan o'r poeryn, ac wedyn ei rwbio ar lygaid y dyn dall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi dweud hyn poerodd ar y llawr a gwneud clai o'r poeryn; yna irodd lygaid y dyn 'r clai,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wedi iddo ddywedyd hyn, efe a boerodd ar lawr, ac a wnaeth glai o'r poeryn, ac a eneiniodd ei glai ef ar y llygaid,