John 9:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ’r cymydogion a’r ei y gwelsent ef or blaen pan vysei ef yn ddall, a ddywed e sont, A ny d hwn yw ’r vn a eisteddei ac a gardotei?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y cymmydogion, gan hyny, ac y rhai a’i gwelent ef o’r blaen mai cardotyn ydoedd, a ddywedasant, Onid hwn yw’r dyn oedd yn eistedd ac yn cardotta?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly dywedodd y cymdogion, a’r rhai a’i gwelai gynt pan oedd yn gardotyn: “Onid hwn yw’r dyn oedd yn eistedd ac yn cardota?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y cymdogion gan hynny, a'r rhai a'i gwelsent ef o'r blaen, mai dall oedd efe, a ddywedasant, Onid hwn yw'r un oedd yn eistedd ac yn cardota?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'i gymdogion, a phawb oedd yn ei nabod fel y dyn oedd yn cardota yn gofyn, “Onid hwn ydy'r dyn oedd yn arfer cardota?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'i gymdogion, felly, a'r bobl oedd wedi arfer o'r blaen ei weld fel cardotyn, yn dweud, "Onid hwn yw'r dyn fyddai'n eistedd i gardota?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny ei gymydogion a'r rhai oeddynt yn dal sylw arno o'r blaen ei fod yn gardotyn, a ddywedasant, Onid hwn yw yr un sydd yn eistedd ac yn cardota?