Jonah 1:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gwŷr a ofnasant gan ofn mawr, ac a ddywedasant wrtho, Paham y gwnaethost hyn? Canys y dynion a wyddent iddo ffoi oddi gerbron yr ARGLWYDD, oherwydd efe a fynegasai iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywon nhw hyn roedd y dynion wedi dychryn fwy fyth. “Beth wyt ti wedi'i wneud o'i le?” medden nhw. (Roedden nhw'n gwybod ei fod e'n ceisio dianc oddi wrth yr ARGLWYDD, am ei fod e wedi dweud hynny wrthyn nhw'n gynharach.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A daeth ofn mawr ar y dynion, a dywedasant wrtho, "Beth yw hyn a wnaethost?" Oherwydd gwyddai'r dynion mai ffoi oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd, gan iddo ddweud hynny wrthynt.