Jonah 1:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Llefasant gan hynny ar yr ARGLWYDD, a dywedasant, Atolwg, ARGLWYDD, atolwg, na ddifether ni am einioes y gŵr hwn, ac na ddyro i'n herbyn waed gwirion: canys ti, O ARGLWYDD, a wnaethost fel y gwelaist yn dda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, “O, plîs ARGLWYDD, paid gadael i ni farw o achos y dyn yma. Paid cosbi ni am wneud hyn iddo os ydy e'n ddieuog. Ti sydd wedi achosi hyn i gyd i ddigwydd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD a dweud, "O ARGLWYDD, paid gadael inni gael ein difetha am fywyd y dyn hwn, na rhoi gwaed dieuog yn ein herbyn; ti yw'r ARGLWYDD, ac yr wyt yn gwneud fel y gweli'n dda."