Jonah 1:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedasant bob un wrth ei gyfaill, Deuwch, a bwriwn goelbrennau, fel y gwypom o achos pwy y mae y drwg hwn arnom. A bwriasant goelbrennau, a'r coelbren a syrthiodd ar Jona.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma griw'r llong yn dod at ei gilydd, a dweud, “Gadewch i ni ofyn i'r duwiau ddangos i ni pwy sydd ar fai am y storm ofnadwy yma.” Felly dyma nhw'n taflu coelbren, a darganfod mai Jona oedd e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd y morwyr wrth ei gilydd, "O achos pwy y daeth y drwg hwn arnom? Gadewch inni fwrw coelbren, inni gael gwybod." Felly bwriasant goelbren, a syrthiodd y coelbren ar Jona.