Jonah 3:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys gair a ddaeth at frenin Ninefe, ac efe a gyfododd o'i frenhinfainc, ac a ddiosgodd oddi amdano ei frenhinwisg, ac a roddes amdano liain sach, ac a eisteddodd mewn lludw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd brenin Ninefe am y peth, dyma fe hyd yn oed yn codi o'i orsedd, tynnu ei wisg frenhinol i ffwrdd, rhoi sachliain amdano, ac eistedd mewn lludw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan ddaeth y newydd at frenin Ninefe, cododd yntau oddi ar ei orsedd, a diosg ei fantell a gwisgo sachliain ac eistedd mewn lludw.