Jonah 3:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a barodd gyhoeddi, a dywedyd trwy Ninefe, trwy orchymyn y brenin a'i bendefigion, gan ddywedyd, Dyn ac anifail, eidion a dafad, na phrofant ddim; na phorant, ac nac yfant ddwfr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
[7-8] Wedyn dyma fe'n gwneud datganiad cyhoeddus: “Dyma mae'r brenin a'i swyddogion yn ei orchymyn: Does neb o bobl Ninefe i fwyta nac yfed (na'r anifeiliaid chwaith — gwartheg na defaid.) Rhaid i bawb wisgo sachliain. A dylid hyd yn oed rhoi sachliain ar yr anifeiliaid. Mae pawb i weddïo'n daer ar Dduw, a stopio gwneud drwg a bod mor greulon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth broclamasiwn a'i gyhoeddi yn Ninefe: "Trwy orchymyn y brenin a'i uchelwyr: "Na fydded i ddyn nac anifail, gwartheg na defaid, brofi dim; na fydded iddynt fwyta nac yfed.