Jonah 4:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD DDUW a ddarparodd gicaion, ac a wnaeth iddo dyfu dros Jona, i fod yn gysgod uwch ei ben ef, i'w waredu o'i ofid: a bu Jona lawen iawn am y cicaion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i blanhigyn bach dyfu uwch ben Jona. Roedd i gysgodi drosto, i'w gadw rhag bod yn rhy anghyfforddus. Roedd Jona wrth ei fodd gyda'r planhigyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A threfnodd yr ARGLWYDD Dduw i blanhigyn dyfu dros Jona i fod yn gysgod dros ei ben ac i leddfu ei drallod; ac yr oedd Jona'n falch iawn o'r planhigyn.