Joshua 1:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tramwywch trwy ganol y llu, a gorchmynnwch i'r bobl, gan ddywedyd, Paratowch i chwi luniaeth: canys o fewn tridiau y byddwch chwi yn myned dros yr Iorddonen hon, i ddyfod i feddiannu'r wlad y mae yr ARGLWYDD eich DUW yn ei rhoddi i chwi i'w meddiannu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ewch drwy'r gwersyll a dweud wrth bawb i gael eu hunain yn barod. Y diwrnod ar ôl yfory dych chi'n mynd i groesi'r Afon Iorddonen, a dechrau concro'r tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
am fynd trwy ganol y gwersyll, a gorchymyn i'r bobl, "Darparwch ichwi luniaeth, oherwydd o fewn tridiau byddwch yn croesi'r Iorddonen ar y ffordd i feddiannu'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi'n etifeddiaeth i chwi."