Joshua 1:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eich gwragedd, eich plant, a'ch anifeiliaid, a drigant yn y wlad a roddodd Moses i chwi o'r tu yma i'r Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd yn arfogion o flaen eich brodyr, y sawl ydych gedyrn o nerth, a chynorthwywch hwynt;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gall eich gwragedd a'ch plant a'ch anifeiliaid aros yma, ar y tir yma roddodd Moses i chi. Ond rhaid i bob dyn sy'n gallu ymladd groesi'r afon o flaen gweddill eich brodyr, yn barod i frwydro gyda nhw. Rhaid i chi aros i'w helpu nhw
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Caiff eich gwragedd, eich plant a'ch anifeiliaid aros yn y wlad a roddodd Moses ichwi y tu hwnt i'r Iorddonen; ond y mae pob milwr o'ch plith i fynd trosodd yn llu arfog o flaen eich perthnasau i'w cynorthwyo,