Joshua 1:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nes rhoddi o'r ARGLWYDD lonyddwch i'ch brodyr, fel i chwithau, a meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr ARGLWYDD eich DUW yn ei rhoddi iddynt: yna dychwelwch i wlad eich etifeddiaeth, a meddiennwch hi, yr hon a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, o'r tu yma i'r Iorddonen, tua chodiad yr haul.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
nes bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi lle iddyn nhw setlo hefyd, a'r tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi iddyn nhw wedi ei goncro. Wedyn cewch groesi'n ôl i'r tir wnaeth Moses ei roi i chi, i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
nes y bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi diogelwch i'ch perthnasau fel i chwi, a hwythau'n cael meddiant o'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi iddynt; yna cewch ddychwelyd a meddiannu'r wlad a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD yn etifeddiaeth i chwi i'r dwyrain o'r Iorddonen."