Joshua 10:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan oeddynt yn ffoi o flaen Israel, a hwy yng ngoriwaered Beth‐horon, yr ARGLWYDD a fwriodd arnynt hwy gerrig mawrion o'r nefoedd hyd Aseca; a buant feirw: amlach oedd y rhai a fu feirw gan y cerrig cenllysg, na'r rhai a laddodd meibion Israel â'r cleddyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth iddyn nhw ddianc oddi wrth byddin Israel i lawr Bwlch Beth-choron i Aseca, dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddi fwrw cenllysg anferth arnyn nhw. Cafodd mwy eu lladd gan y cenllysg nag oedd wedi eu lladd gan fyddin Israel yn y frwydr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel yr oeddent yn ffoi o flaen Israel ar lechwedd Beth-horon, bwriodd yr ARGLWYDD arnynt genllysg breision o'r awyr bob cam i Aseca, a buont farw. Bu farw mwy o achos y cenllysg nag a laddwyd gan yr Israeliaid 'r cleddyf.