Joshua 10:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Llefarodd Josua wrth yr ARGLWYDD y dydd y rhoddodd yr ARGLWYDD yr Amoriaid o flaen meibion Israel: ac efe a ddywedodd yng ngolwg Israel, O haul, aros yn Gibeon; a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar y diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD wneud i Israel orchfygu'r Amoriaid, roedd Josua wedi gweddïo o flaen pobl Israel i gyd: “Haul, stopia yn yr awyr uwch ben Gibeon. Ti leuad, saf yn llonydd uwch Dyffryn Aialon.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y diwrnod y darostyngodd yr ARGLWYDD yr Amoriaid o flaen yr Israeliaid fe ganodd Josua i'r ARGLWYDD yng ngu373?ydd yr Israeliaid: "Haul, aros yn llonydd yn Gibeon, a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon."