Joshua 10:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r haul a arhosodd, a'r lleuad a safodd, nes i'r genedl ddial ar eu gelynion. Onid yw hyn yn ysgrifenedig yn llyfr yr Uniawn? Felly yr haul a safodd yng nghanol y nefoedd, ac ni frysiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r haul a'r lleuad yn aros yn eu hunfan nes i Israel ddial ar eu gelynion. (Mae'r gerdd yma i'w chael yn Sgrôl Iashar.) Roedd yr haul wedi sefyll yn ei unfan drwy'r dydd, heb fachlud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac arhosodd yr haul yn llonydd, a safodd y lleuad, nes i'r genedl ddial ar ei gelynion. Y mae hyn wedi ei ysgrifennu yn Llyfr Jasar. Safodd yr haul yng nghanol yr wybren, heb frysio i fachludo am ddiwrnod cyfan.