Joshua 10:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni bu y fath ddiwrnod â hwnnw o'i flaen ef, nac ar ei ôl ef, fel y gwrandawai yr ARGLWYDD ar lef dyn: canys yr ARGLWYDD a ymladdodd dros Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does dim diwrnod tebyg erioed wedi bod cyn hynny na wedyn! Diwrnod pan wnaeth yr ARGLWYDD wrando ar orchymyn dyn. Oedd, roedd yr ARGLWYDD yn ymladd dros bobl Israel!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni fu diwrnod fel hwnnw na chynt nac wedyn, a'r ARGLWYDD yn gwrando ar lais meidrolyn; yn wir, yr ARGLWYDD oedd yn ymladd dros Israel.