Joshua 10:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac na sefwch chwi; erlidiwch ar ôl eich gelynion, a threwch y rhai olaf ohonynt; na adewch iddynt fyned i'w dinasoedd: canys yr ARGLWYDD eich DUW a'u rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn peidiwch oedi — ewch ar ôl y gelynion. Peidiwch gadael iddyn nhw ddianc yn ôl i'w trefi. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd i roi buddugoliaeth i chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch chwithau sefyllian, ymlidiwch eich gelynion a'u goddiweddyd; peidiwch gadael iddynt gyrraedd eu dinasoedd, gan fod yr ARGLWYDD eich Duw wedi eu rhoi yn eich gafael."