Joshua 10:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr ofnasant yn ddirfawr; oblegid dinas fawr oedd Gibeon, fel un o'r dinasoedd brenhinol; ac oherwydd ei bod yn fwy nag Ai; ei holl wŷr hefyd oedd gedyrn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd e a'i bobl yn ofni am eu bywydau, achos roedd Gibeon yn dref fawr — roedd hi'n fwy na'r trefi brenhinol eraill i gyd, ac yn fwy nac Ai, a'i dynion i gyd yn ymladdwyr dewr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd hyn ofn mawr arno, oherwydd yr oedd Gibeon yn ddinas fawr fel un o'r dinasoedd brenhinol; yr oedd, yn wir, yn fwy nag Ai, a'i holl ddynion yn rhyfelwyr praff.