Joshua 10:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r holl bobl a ddychwelasant i'r gwersyll at Josua ym Macceda mewn heddwch, heb symud o neb ei dafod yn erbyn meibion Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma byddin Israel i gyd yn mynd yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Macceda. Doedd neb yn mentro dweud dim byd yn erbyn pobl Israel ar ôl hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi hynny dychwelodd yr holl fyddin yn ddiogel i'r gwersyll at Josua yn Macceda, heb neb yn yngan gair yn erbyn yr Israeliaid.