Joshua 10:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddygasant hwy y brenhinoedd hynny at Josua, yna Josua a alwodd am holl wŷr Israel, ac a ddywedodd wrth dywysogion y rhyfelwyr, y rhai a aethai gydag ef, Nesewch, gosodwch eich traed ar yddfau y brenhinoedd hyn. A hwy a nesasant, ac a osodasant eu traed ar eu gyddfau hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Josua yn galw pobl Israel ato, a dweud wrth gapteiniaid y fyddin, “Dewch yma, a gosod eich traed ar yddfau y brenhinoedd yma.” A dyna wnaethon nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt ddod 'r brenhinoedd hyn allan at Josua, galwodd yntau ar holl wu375?r Israel, a dweud wrth swyddogion y milwyr a fu'n ymdeithio gydag ef, "Dewch yma, gosodwch eich traed ar warrau'r brenhinoedd hyn." Aethant hwythau atynt a gosod eu traed ar eu gwarrau.