Joshua 10:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a'i rhoddodd hithau, a'i brenin, yn llaw Israel; ac yntau a'i trawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid a'r oedd ynddi; ni adawodd ynddi un yng ngweddill: canys efe a wnaeth i'w brenin hi fel y gwnaethai i frenin Jericho.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r dref a'i byddin yn nwylo Josua. Cafodd pawb oedd yn byw yno eu lladd. Doedd neb wedi ei adael yn fyw. Cafodd y brenin ei ladd fel brenin Jericho.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddodd yr ARGLWYDD hi a'i brenin yn llaw Israel, a thrawodd Josua hi a phawb oedd ynddi 'r cleddyf, heb arbed neb; gwnaeth i'w brenin fel yr oedd wedi gwneud i frenin Jericho.