Joshua 10:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Josua a dramwyodd, a holl Israel gydag ef, o Libna i Lachis; ac a wersyllodd wrthi, ac a ymladdodd i'w herbyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau eto i ymosod ar Lachish.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn eu blaen o Libna i Lachis, a gwersyllu yn ei herbyn ac ymosod arni.