Joshua 10:32 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a roddodd Lachis yn llaw Israel; yr hwn a'i henillodd hi yr ail ddydd, ac a'i trawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid ag oedd ynddi, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Libna.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r dref honno yn nwylo Israel. Dyma nhw'n llwyddo i'w choncro ar yr ail ddiwrnod. A dyma nhw'n lladd pawb oedd yn byw yno hefyd, fel roedden nhw wedi gwneud i Libna.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddodd yr ARGLWYDD Lachis yn llaw Israel, ac fe'i gorchfygodd hi yr ail ddiwrnod a'i tharo hi a phawb oedd ynddi 'r cleddyf, yn union fel y gwnaeth i Libna.