Joshua 10:39 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'i henillodd hi, ei brenin, a'i holl ddinasoedd; a hwy a'u trawsant hwy â min y cleddyf, ac a ddifrodasant bob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un yng ngweddill: fel y gwnaethai efe i Hebron, felly y gwnaeth efe i Debir, ac i'w brenin; megis y gwnaethai efe i Libna, ac i'w brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n ei choncro hi a'i brenin a'r pentrefi o'i chwmpas, a lladd pawb oedd yn byw yno. Cafodd pob enaid byw ei ladd. Doedd neb ar ôl. Cafodd Debir ei dinistrio'n llwyr, a'i brenin ei ladd, fel digwyddodd i Libna a'i brenin, ac i Hebron.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Goresgynnodd hi a'i brenin a'i maestrefi i gyd, a'u lladd 'r cleddyf a lladd pawb oedd ynddi, heb arbed neb; gwnaeth i Debir a'i brenin fel yr oedd wedi gwneud i Hebron ac i Libna a'i brenin.