Joshua 10:40 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y trawodd Josua yr holl fynydd‐dir, a'r deau, y gwastadedd hefyd, a'r bronnydd, a'u holl frenhinoedd: ni adawodd efe un yng ngweddill; eithr efe a ddifrododd bob perchen anadl, fel y gorchmynasai ARGLWYDD DDUW Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Josua wedi concro'r ardal gyfan — y bryniau, y Negef i'r de, a'r iseldir a'r llethrau i'r gorllewin, a'u brenhinoedd i gyd. Doedd neb ar ôl. Cafodd pob enaid byw ei ladd, yn union fel roedd yr ARGLWYDD, Duw Israel wedi gorchymyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gorchfygodd Josua y wlad i gyd: y mynydd-dir, y Negef, y Seffela a'r llechweddau, a hefyd eu holl frenhinoedd, heb arbed neb, ond lladd pob perchen anadl, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, Duw Israel.