Joshua 10:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwŷr Gibeon a anfonasant at Josua i'r gwersyll i Gilgal, gan ddywedyd, Na thyn ymaith dy ddwylo oddi wrth dy weision: tyred i fyny yn fuan atom ni, achub ni hefyd, a chynorthwya ni: canys holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai sydd yn trigo yn y mynydd‐dir, a ymgynullasant i'n herbyn ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma bobl Gibeon yn anfon neges at Josua yn y gwersyll yn Gilgal: “Paid troi cefn arnon ni, dy weision! Achub ni! Helpa ni! Mae brenhinoedd yr Amoriaid, sy'n byw yn y bryniau, wedi ymuno gyda'i gilydd i ymosod arnon ni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond anfonodd pobl Gibeon at Josua i'r gwersyll yn Gilgal a dweud, "Paid gwrthod cynorthwyo dy weision, ond brysia i fyny atom i'n hachub a'n helpu, oherwydd y mae holl frenhinoedd yr Amoriaid sy'n byw yn y mynydd-dir wedi ymgasglu yn ein herbyn."