Joshua 11:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond ni losgodd Israel yr un o'r dinasoedd oedd yn sefyll yn eu cadernid; namyn Hasor yn unig a losgodd Josua.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wnaeth pobl Israel ddim llosgi unrhyw un o'r trefi hynny oedd wedi ei hadeiladu ar garnedd. Chatsor oedd yr unig un gafodd ei llosgi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond am y dinasoedd oedd yn sefyll ar garneddau, ni losgodd Israel yr un ohonynt, ac eithrio Hasor, a losgwyd gan Josua.