Joshua 11:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD i Moses ei was, felly y gorchmynnodd Moses i Josua, ac felly y gwnaeth Josua; ni adawodd efe ddim o'r hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD i Moses.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi dweud wrth Josua beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn, a dyna wnaeth Josua. Gwnaeth bopeth oedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Moses.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i'w was Moses, felly yr oedd Moses wedi gorchymyn i Josua; dyna a wnaeth Josua heb esgeuluso dim o'r cwbl a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.