Joshua 11:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir, hyd Baal‐Gad, yng nglyn Libanus, dan fynydd Hermon: a'u holl frenhinoedd hwynt a ddaliodd efe; trawodd hwynt hefyd, ac a'u rhoddodd i farwolaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Concrodd bobman o fynydd Halac sydd i gyfeiriad Edom yn y de, yr holl ffordd i Baal-gad yn y dyffryn rhwng Mynydd Hermon a bryniau Libanus. Daliodd bob un o'u brenhinoedd, a'u lladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
o Fynydd Halac sy'n codi tua Seir hyd at Baal-gad yn nyffryn Lebanon dan Fynydd Hermon. Gorchfygodd ei brenhinoedd i gyd, a'u taro a'u lladd.