Joshua 11:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a'u rhoddodd hwynt yn llaw Israel; a hwy a'u trawsant hwynt, ac a'u herlidiasant hyd Sidon fawr, ac hyd Misreffoth‐maim, ac hyd glyn Mispe o du y dwyrain; a hwy a'u trawsant hwynt, fel na adawodd efe ohonynt un yng ngweddill.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r fuddugoliaeth i fyddin Israel. Ac aeth byddin Israel ar eu holau yr holl ffordd i Sidon a Misreffoth-maim, a hefyd Dyffryn Mitspe yn y dwyrain, a'i taro nhw i lawr. Wnaethon nhw adael neb ar ôl yn fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw Israel; trawsant hwy, a'u hymlid hyd at Sidon Fawr a Misreffoth-maim, a dyffryn Mispa i'r dwyrain. Trawsant hwy, heb arbed neb.