Joshua 12:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma frenhinoedd y wlad, y rhai a drawodd meibion Israel, ac a feddianasant eu gwlad hwynt o'r tu hwnt i'r Iorddonen tua chodiad yr haul; o afon Arnon hyd fynydd Hermon, a'r holl wastadedd tua'r dwyrain:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r brenhinoedd wnaeth pobl Israel eu trechu i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen, a'r tiroedd wnaethon nhw eu meddiannu — o Geunant Arnon i Fynydd Hermon, sef yr holl dir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma frenhinoedd y wlad a drawyd gan yr Israeliaid ac y cymerwyd meddiant o'u tiroedd i'r dwyrain o'r Iorddonen, o nant Arnon hyd at Fynydd Hermon, gan gynnwys holl ddwyrain yr Araba: