Joshua 12:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac yn arglwyddiaethu o Aroer, yr hon sydd ar fin yr afon Arnon, ac o ganol yr afon, ac o hanner Gilead hyd yr afon Jabboc, ym mro meibion Ammon;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon ac yn teyrnasu o Aroer, ger Ceunant Arnon. Roedd yn teyrnasu o ganol Ceunant Arnon i Ddyffryn Jabboc, sef y ffin gyda tiriogaeth pobl Ammon — yn cynnwys hanner Gilead.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon. Yr oedd ef yn llywodraethu o Aroer, sydd ar ymyl nant Arnon, dros hanner Gilead, hynny yw, o ganol nant Arnon hyd at nant Jabboc, terfyn yr Ammoniaid;