Joshua 12:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Moses gwas yr ARGLWYDD a meibion Israel a'u trawsant hwy: a Moses gwas yr ARGLWYDD a'i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i'r Reubeniaid, ac i'r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, a phobl Israel wedi eu trechu nhw a rhannu eu tiroedd nhw rhwng llwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe'u gorchfygwyd gan Moses gwas yr ARGLWYDD a'r Israeliaid; a rhoddodd Moses gwas yr ARGLWYDD y tir yn feddiant i'r Reubeniaid a'r Gadiaid a hanner llwyth Manasse.