Joshua 12:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma hefyd frenhinoedd y wlad y rhai a drawodd Josua a meibion Israel o'r tu yma i'r Iorddonen o du y gorllewin, o Baal‐Gad, yng nglyn Libanus, hyd fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir; a Josua a'i rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ôl eu rhannau;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r brenhinoedd wnaeth Josua a pobl Israel eu trechu i'r gorllewin o'r Afon Iorddonen — o Baal-gad yn Nyffryn Libanus yn y gogledd i lawr i Fynydd Halac ac at wlad Edom yn y de. (Rhannodd Josua y tiroedd yma i gyd rhwng llwythau Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma frenhinoedd y wlad a drawyd gan Josua a'r Israeliaid i'r gorllewin o'r Iorddonen, o Baal-gad yn nyffryn Lebanon hyd at Fynydd Halac sy'n codi i gyfeiriad Seir. Rhoddodd Josua'r tir yn feddiant i lwythau Israel yn l eu cyfrannau