Joshua 13:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phan heneiddiodd Josua, a phwyso ohono mewn oedran, dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Tydi a heneiddiaist, daethost i ddyddiau oedrannus, a thir lawer iawn sydd eto i'w feddiannu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Josua wedi mynd yn hen iawn, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Ti'n mynd yn hen, ac mae yna lot fawr o dir sydd eto heb ei goncro.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i Josua heneiddio a mynd i oed, dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Yr wyt yn hen ac wedi mynd i oed, ac y mae llawer iawn o dir yn aros i'w feddiannu.