Joshua 13:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O Sihor, yr hon sydd o flaen yr Aifft, hyd derfyn Ecron tua'r gogledd, yr hwn a gyfrifir i'r Canaaneaid: pum tywysog y Philistiaid: y Gasathiaid, a'r Asdodiaid, yr Escaloniaid, y Githiaid, yr Ecroniaid; yr Afiaid:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
o Afon Sihor ar y ffin gyda'r Aifft i fyny yr holl ffordd i dir Ecron yn y gogledd (y cwbl yn dir sy'n perthyn i'r Canaaneaid.) Mae'n cynnwys tiriogaeth arweinwyr y Philistiaid yn Gasa, Ashdod, Ashcelon, Gath ac Ecron — y pump ohonyn nhw. Tir yr Afiaid hefyd,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
(i'r Canaaneaid y cyfrifir y tir o'r afon Sihor sydd ar drothwy'r Aifft hyd derfyn Ecron i'r gogledd, sef cylchoedd pum teyrn y Philistiaid: Gasa, Asdod, Ascalon, Gath ac Ecron), a thir yr Afiaid