Joshua 13:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Holl breswylwyr y mynydd‐dir o Libanus hyd Misreffoth‐maim, a'r holl Sidoniaid, y rhai hynny a yrraf ymaith o flaen meibion Israel: yn unig rhan di hi wrth goelbren i Israel yn etifeddiaeth, fel y gorchmynnais i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dw i am yrru allan o flaen pobl Israel bawb sy'n byw yn mynydd-dir Libanus yr holl ffordd i Misreffoth-maim, sef tir y Sidoniaid. “Mae'r tir yma i gyd i gael ei rannu rhwng llwythau Israel, fel dw i wedi gorchymyn i ti. Bydd gan bob llwyth ei diriogaeth ei hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddaf yn gyrru ymaith y Sidoniaid i gyd, holl drigolion y mynydd-dir, o Lebanon hyd Misreffoth-maim, o flaen yr Israeliaid; rhanna di'r etifeddiaeth i Israel fel y gorchmynnais iti.